Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
19 Mawrth 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5569
------
Gwnaeth y Dirprwy Lywydd ddatganiad yn cyfleu ei chydymdeimlad dwysaf, ar ran y Cynulliad, â phawb yr oedd y saethu yn Christchurch ac Utrecht wedi effeithio arnynt.
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Dechreuodd yr eitem am 16.02
NDM6994 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6995 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6993 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith diwygio lles.
2. Yn nodi sylwadau diweddar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon dros weithredu'r ddau.
3. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, drwy ei Rhaglen Lywodraethu a'r cynllun gweithredu economaidd;
4. Yn pryderu, er bod cyflogaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi bod tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
2 |
36 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddatganoli gwaith gweinyddol lles i Gymru fel y gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
37 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6993 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
2 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Am 16.52, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 10 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull ar gyfer dadl Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
Dechreuodd yr eitem am 17.02
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Derbyniwyd gwelliant 3, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 4, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 5, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 6, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 55:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 55.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 56:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 56.
Derbyniwyd gwelliant 7, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 8, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 9, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 10, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 57:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 57.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 58:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 58.
Derbyniwyd gwelliant 29, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 30, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 31, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 32, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 33, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 62:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
3 |
36 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 62.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 34:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
1 |
9 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 34.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 63:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
2 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 63.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 64:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
1 |
2 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 64.
Derbyniwyd gwelliant 35, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 36, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 37, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 65:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 65.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 66:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 66.
Derbyniwyd gwelliant 38, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 67:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 67.
Derbyniwyd gwelliant 39, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 40, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 41, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 42, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 11, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 12, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 13, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 43:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 43.
Derbyniwyd gwelliant 14, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 15, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 44:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 44.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 45:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 45.
Derbyniwyd gwelliant 16, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 17:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 17.
Derbyniwyd gwelliant 18, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 19, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 20, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 21, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 22, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 46, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 54, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gan fod gwelliant 46 wedi’i dderbyn, methodd gwelliannau 23 a 24.
Derbyniwyd gwelliant 25, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 26:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 26.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 47:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
30 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 47.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 48:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 48.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 49:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 49.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 52:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 52.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 51:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 51.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 50:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 50.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 59:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
29 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 59.
Derbyniwyd gwelliant 27, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 28, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 53:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 53.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 60:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 60.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 61:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
38 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 61.
Derbyniwyd gwelliant 1, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 2, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Dechreuodd yr eitem am 18.45
NDM6992 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.49
Daeth y cyfarfod i ben am 18.50
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 20 Mawrth 2019